Hanes

"Mae pobl ag anabledd dysgu ymhlith y grwpiau mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas ac mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i wella'u cyfleoedd mewn bywyd."

Cafodd y Grŵp Cynghori ym maes Anabledd Dysgu (GCAD) presennol ei sefydlu yn 2012 gan Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru ar y pryd.Gwahoddwyd nifer o bobl oedd â diddordeb mewn gwella bywydau pobl ag anabledd dysgu a'r rhai sy'n eu cefnogi yng Nghymru gan y Dirprwy Weinidog i ymuno â'r grŵp.

Mae'r grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod materion a rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru i helpu i lunio polisi ac arfer yng Nghymru. Mae nifer o is-grwpiau wedi eu sefydlu i edrych ar faterion arbennig a datblygu ffrydiau gwaith y grŵp. Mae'r is-grwpiau hyn yn cynnwys pobl â gwybodaeth berthnasol ac arbenigol o'r tu allan i'r Grŵp Cynghori ym maes Anabledd Dysgu.

Cafodd y Grŵp Cynghori ym maes Anabledd Dysgu cyntaf ei sefydlu ym 1999 gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i baratoi fframwaith gwasanaeth drafft i bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru. Mae gwaith y grŵp gwreiddiol hwn yn cael ei grynhoi yn yr adroddiad 'Fulfilling the Promises' (Saesneg yn unig), a gyhoeddwyd yn 2001. Yn 2002 sefydlwyd y Grŵp Cynghori ar Weithredu ym maes Anabledd Dysgu  i gymryd lle'r grŵp hwn i oruchwylio ymateb Llywodraeth Cymru i 'Fulfilling the Promises'. Cyfrifoldeb y grŵp oedd sicrhau bod anableddau dysgu yn parhau i fod yn flaenoriaeth ar yr agenda yng Nghymru, cynghori Llywodraeth Cymru ar faterion anabledd dysgu a hyrwyddo hawliau pobl ag anabledd dysgu.

Roedd y Grŵp Cynghori ar Weithredu ym maes Anabledd Dysgu yn gyfrannol yn natblygiad Datganiad ar bolisi ac arfer ar gyfer oedolion ag anabledd dysgu (2007) Llywodraeth Cymru. Anelai'r grŵp at adeiladu ar y weledigaeth a fynegwyd yn y ddogfen bwysig hon.

"Mae pob person ag anabledd dysgu'n ddinasyddion llawn, cyfartal o ran statws a gwerth i ddinasyddion eraill yr un oed. Mae'r un hawliau ganddynt i:

  • fyw bywydau iach, cynhyrchiol ac annibynnol gyda thriniaeth a chymorth priodol ac ymatebol i ddatblygu eu potensial mwyaf posib
  • bod yn unigolion a phenderfynu ar faterion bob dydd a materion allweddol i'w bywydau drostynt eu hunain gan ymuno ym mhob proses o wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau, gyda chyngor a chymorth priodol ac ymatebol lle bo angen
  • byw eu bywydau o fewn eu cymuned, gan gynnal y rhwymau a'r cysylltiadau teuluol a chymdeithasol sy'n bwysig iddynt
  • cael cymorth y cymunedau y maent yn rhan ohonynt a mynediad at wasanaethau cyffredinol ac arbenigol sy'n ymatebol i'w hanghenion, eu hamgylchiadau a'u dewisiadau unigol."

Yn 2009 cyflwynodd y Grŵp Cynghori ar Weithredu ym maes Anabledd Dysgu Gynllun Gweithredu drafft i Lywodraeth Cymru wedi ei seilio ar y Datganiad ar Bolisi ac Arfer ar gyfer Oedolion ag Anabledd Dysgu (2007). Yn anffodus, oherwydd cyfyngiadau cyllid, penderfynodd Llywodraeth Cymru beidio â chyhoeddi'r Cynllun Gweithredu. Fodd bynnag, amlygodd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol chwe gweithred o'r cynllun drafft yr oedd Llywodraeth Cymru am fwrw ymlaen gyda hwy. Penderfynodd y Grŵp Cynghori ar Weithredu y dylai grŵp newydd gael ei gychwyn i fwrw ymlaen â'r gweithrediadau hyn a rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar faterion sy'n dylanwadu ar fywydau pobl ag anabledd dysgu a'r bobl sy'n eu cefnogi. Cyfarfu'r Grŵp Cynghori ar Weithredu am y tro olaf ym mis Medi 2010 a chychwynwyd y Grŵp Cynghori ym maes Anabledd Dysgu presennol yn 2012.